Newyddion

1/10/2008 - Gwefan a Chyfeirlyfr yn cael ei gyhoeddi

Ein gobaith, wrth ffurfio'r wefan syml hon yw cyhoeddi ein bodolaeth a datgan ein presenoldeb gweithredol mewn sawl man.

Rydym wedi creu cyfeirlyfr digidol o gapeli Synod Cymru. Cliciwch ar y clawr isod i gael cipolwg.

Click for our e-Brochure

Rhowch wybod i'ch cyfeillion am y wefan hon trwy ddefnyddio'r cysylltiadau priodol i anfon y Cyfeirlyfr hwn ymhell ac agos. Dywedwch wrth eich plant, eich wyrion a'ch wyresau, a pherthnasau eraill am ei bodolaeth. Fe fyddai hyn yn ffordd dda o'u hatgoffa o fodolaeth a chroeso eu Heglwys, heb efallai 'bregethu' yn ormodol iddynt.

Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio'n gwaith fel Synod ac y bydd y wefan hon yn fodd arall i efengylu yn enw Iesu Grist. Dymunaf bob bendith arnoch fel defnyddwyr yr adnodd newydd hwn.

Y Parch. Patrick Slattery
Cadeirydd Synod Cymru



Synod Cymru, 3 Nant Y Gader, Dolgellau LL40 1LB
Ffon: 01341 422524   ::   Ffacs: 01341 422524

Hawlfraint © Synod Cymru 2008